top of page

Gweithgaredd 4: Bywyd Iddewig yn Ewrop Cyn y Rhyfel: Hunaniaeth, Amrywiaeth a Chyffredinolrwydd

​

Grŵp oedran

Blynyddoedd 4-6 (9-11 oed)

Cam Cynnydd 3

​

Yn y gweithgaredd hwn, bydd myfyrwyr yn myfyrio ar y cysyniad o 'hunaniaeth' a sut maent yn gweld eu hunaniaeth bersonol eu hunain.

 

Bydd myfyrwyr yn gwrando ar dystiolaeth fideo Inge Hack, ffoadur Kindertransport, ac yn casglu tystiolaeth ffotograffig sylfaenol yn ymwneud â'i bywyd yn yr Almaen, gan ganiatáu iddynt ddeall unigoliaeth y bywydau Iddewig yr effeithiwyd arnynt gan yr Holocost.

 

Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael cyflwyniad i sut oedd hunaniaeth, diwylliant a bywyd cymunedol Iddewig yn Ewrop cyn yr Ail Ryfel Byd ac yn ystyried sut roedd profiadau Iddewig cyn y rhyfel yn wahanol neu'n debyg.

 

Bydd y gweithgaredd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar y pwyntiau cyffredin rhwng eu bywydau nhw a bywydau Iddewon oedd yn byw yn Ewrop cyn y rhyfel. Bydd hefyd yn galluogi myfyrwyr i ddechrau gwerthfawrogi amrywiaeth helaeth y diwylliant Iddewig Ewropeaidd cyn y rhyfel.

 

Gellir rhannu’r gweithgaredd yn hawdd yn ddwy sesiwn fyrrach lle bo angen - gellir cyflawni Tasgau 1 a 2 yn y sesiwn gyntaf a gellir cwblhau Tasgau 3 a 4 mewn ail sesiwn.

bottom of page